Guidance

Beth i'w wneud os oes gennych ddyfarniad ond nad yw'r diffynnydd wedi talu (EX321)

Updated 26 May 2021

Cael eich arian ar ôl dyfarniad

Os yw llys wedi penderfynu bod yn rhaid i rywun dalu swm o arian i chi (rydych wedi ‘cael dyfarniad yn erbyn y diffynnydd’), ac nad ydych wedi derbyn taliad, gall y canllaw hwn eich helpu i benderfynu beth i’w wneud nesaf. Ni fydd y llys yn gorfodi’r dyfarniad oni bai eich bod yn gofyn iddo wneud hynny.

Gallwch geisio cael eich arian (a elwir yn ‘gorfodi eich dyfarniad’) drwy ofyn i’r llys am:

  • gwarant rheolaeth
  • gorchymyn atafaelu enillion
  • gorchymyn dyled trydydd parti
  • gorchymyn codi tâl

Mae’r canllaw hwn yn rhoi disgrifiadau byr o bob un o’r dulliau gorfodi hyn.

Os oes arno rywun £5,000 neu fwy ichi, gallwch hefyd wneud cais i wneud y diffynnydd yn fethdalwr, fodd bynnag, gall hyn fod yn ddrud.

Cofiwch, ni all y llys warantu y byddwch yn cael eich arian yn ôl, a bydd yn rhaid i chi dalu ffi am unrhyw gamau a gymerwch. Er y bydd y llys yn ychwanegu’r ffi at yr arian sydd eisoes yn ddyledus gan y diffynnydd, ni all y llys ddychwelyd yr hyn yr ydych wedi’i dalu os na fyddwch yn cael eich arian gan y diffynnydd, neu os bydd y llys yn gwrthod eich cais.

Fodd bynnag, efallai y bydd eich sefyllfa ariannol yn golygu nad oes rhaid i chi dalu ffi. Gall y llyfryn ‘EX160A – Sut i wneud cais am help i dalu ffioedd’ roi mwy o wybodaeth i chi am hyn, mae hefyd ar gael gan staff y llys. Bydd yn rhaid i chi wneud cais ar wahân am bob ffi y byddai’n rhaid i chi ei thalu fel arall.

Cyn i chi benderfynu sut i barhau, dylech ystyried:

  • a ydych yn debygol o gael eich arian a’ch ffi llys gan y diffynnydd
  • a oes ar y diffynnydd arian i bobl eraill neu a oes ganddo ddyfarniadau llys eraill
  • a yw’r diffynnydd yn berchen ar unrhyw nwyddau neu asedau y gellir eu cymryd a’u gwerthu mewn arwerthiant
  • a yw’r diffynnydd yn gweithio
  • a oes gan y diffynnydd enillion eraill, fel incwm o fuddsoddiadau
  • a oes gan y diffynnydd gyfrif banc, cyfrif cymdeithas adeiladu neu gyfrif arall
  • a yw’r diffynnydd yn berchen ar eiddo (fel tŷ)
  • a oes arno unrhyw un arall arian i’r diffynnydd

A oes gan y diffynnydd unrhyw ddyfarniadau eraill

Gallwch chwilio’r Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon i weld a oes gan y diffynnydd unrhyw ddyfarniadau neu ddirwyon blaenorol neu rai sydd heb eu talu. Mae’r gofrestr yn cadw manylion am:

  • ddyfarniadau am 6 blynedd
  • dirwyon am 5 mlynedd

Rhaid i chi ofyn i’r Cofrestrydd wneud chwiliad. Bydd yn rhaid i chi dalu ffi am bob enw rydych eisiau chwilio amdano.

Gallwch gysylltu â’r Cofrestrydd, neu wneud cais ar-lein i Trust Online i wneud chwiliad neu drwy ysgrifennu at:

Trust Online
153 - 157 Cleveland Street
Llundain
W1T 6QW

Ffôn: 020 7380 0133

Dewiswch pa weithdrefn i’w defnyddio

Mae pob ffordd o orfodi eich dyfarniad wedi’i hanelu at agwedd wahanol ar asedau’r diffynnydd. Hynny yw:

  • nwyddau sy’n eiddo (gwarant o reolaeth)
  • tâl? neu gyflog (gorchymyn atafaelu enillion)
  • arbedion (gorchymyn dyled trydydd parti)
  • asedau (gorchymyn codi tâl)

Dewiswch yr un sydd fwyaf tebygol o gael eich arian yn ôl. Er enghraifft, os yw’r diffynnydd yn ddi-waith neu’n hunangyflogedig, byddech yn gwastraffu eich amser a’ch arian yn gofyn am orchymyn atafaelu enillion. Ond os oes gan y diffynnydd arian mewn cyfrif banc, gallai gorchymyn dyled trydydd parti fod yn addas.

Gwarant rheolaeth

Mae gwarant rheolaeth yn rhoi’r awdurdod i asiantau gorfodi’r llysoedd gymryd nwyddau o gartref neu fusnes y diffynnydd. Bydd asiantau gorfodi yn ceisio naill ai:

  • casglu’r arian sy’n ddyledus
  • cymryd nwyddau i’w gwerthu mewn arwerthiant

Ni allwch ofyn i’r Llys Sirol godi gwarant os yw’r swm yr ydych eisiau i’r asiant gorfodi ei gasglu yn fwy na £5,000, oni bai eich bod yn gorfodi cytundeb a wnaed o dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974. Y rheswm am hyn yw mai dim ond yn y Llys Sirol y gellir gorfodi cytundebau a reoleiddir. Ond gallwch ofyn i asiant gorfodi (drwy’r Uchel Lys) geisio casglu’r arian sy’n ddyledus i chi neu i gymryd nwyddau o’r cartref.

Mae’r weithdrefn yn yr Uchel Lys yn wahanol i’r Llys Sirol a gall fod yn gymhleth ac yn ddrutach. Efallai y byddwch eisiau ceisio cyngor gan gyfreithiwr, canolfan y gyfraith neu Cyngor ar Bopeth cyn i chi ddechrau’r weithdrefn hon. Mae rhai canolfannau gwrandawiadau’r Llys Sirol hefyd yn gofrestrfeydd dosbarth yr Uchel Lys. Gall staff yno neu yn yr Uchel Lys yn Llundain ddweud mwy wrthych am orfodi gan yr Uchel Lys.

Gallwch ofyn i’r asiant gorfodi o’r Llys Teulu geisio cael unrhyw swm o arian yn ôl. Os yw’r dyfarniad yr ydych yn ceisio’i orfodi yn dod o’r Llys Teulu, dylech godi gwarant yn y Llys Teulu.

Ni all asiantau gorfodi bob amser dynnu ymaith a gwerthu nwyddau’r diffynnydd. Er enghraifft, ni allant gael gwared ar eitemau cartref hanfodol ac offer neu nwyddau masnachwyr o dan gytundebau llogi neu rentu.

Ni fydd yr asiant gorfodi yn cymryd nwyddau’r diffynnydd os nad ydynt werth digon i dalu’r warant ar ôl costau cymryd a gwerthu’r nwyddau. Yn aml, dim ond ffracsiwn o’u gwerth gwreiddiol y mae nwyddau a werthir mewn arwerthiant yn ei godi. Mae hefyd yn bosibl bod nwyddau’r diffynnydd eisoes wedi’u hatafaelu gan asiantau gorfodi sy’n gweithredu o dan warant arall.

I gael rhagor o wybodaeth am warantau, darllenwch Sut ydw i’n gofyn am warant rheolaeth - EX322 sydd hefyd ar gael o unrhyw Lys Sirol neu ganolfan wrandawiadau’r Llys Teulu.

Gorchymyn atafaelu enillion

Anfonir gorchymyn atafaelu enillion at gyflogwr y diffynnydd. Mae’n dweud wrth y cyflogwr am gymryd swm o enillion y diffynnydd bob diwrnod cyflog a’i anfon i swyddfa gasglu. Yna anfonir yr arian atoch chi.

Rhaid i’r diffynnydd fod wedi’i gyflogi gan rywun cyn y gallwch ofyn am orchymyn atafaelu enillion. Ni ellir gwneud gorchymyn os yw’r diffynnydd yn ddi-waith neu’n hunangyflogedig.

Hefyd, efallai na fydd y llys yn gallu gwneud gorchymyn neu efallai na fydd ond yn gwneud gorchymyn i’w dalu’n ôl mewn rhandaliadau bychain, os yw treuliau byw’r diffynnydd yn fwy na’r swm y mae’n ei ennill.

I gael rhagor o wybodaeth am orchymyn atafaelu enillion, darllenwch sut ydw i’n gofyn am orchymyn atafaelu enillion - EX323. Sydd hefyd ar gael o unrhyw Lys Sirol neu ganolfan wrandawiadau’r Llys Teulu.

Gorchymyn dyled trydydd parti

Fel arfer, caiff gorchymyn dyled trydydd parti ei wneud i atal y diffynnydd rhag cymryd arian allan o’i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Telir yr arian sy’n ddyledus i chi o’r cyfrif.

Gellir anfon gorchymyn dyled trydydd parti hefyd at unrhyw un sydd arno arian i’r diffynnydd. Os oes gan y diffynnydd gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, bydd y banc neu’r gymdeithas adeiladu yn rhewi’r cyfrif pan fydd yn derbyn y gorchymyn gan y llys. Os yw’r cyfrif yn ‘overdrawn’ ar y diwrnod y mae’r banc neu’r gymdeithas adeiladu yn derbyn eich archeb, ni ellir eich talu o’r cyfrif.

Bydd y diffynnydd yn gwybod am y gorchymyn a gall roi’r gorau i dalu arian i mewn i’r cyfrif.

I gael rhagor o wybodaeth am orchymyn dyled trydydd parti, darllenwch EX325 – Gorchymyn dyled trydydd parti a gorchymyn codi tâl – sut ydw i’n gofyn am orchymyn? sydd hefyd ar gael o unrhyw Lys Sirol neu ganolfan wrandawiadau’r Llys Teulu.

Gorchymyn codi tâl

Mae gorchymyn codi tâl yn atal y diffynnydd rhag gwerthu ei asedau (fel eiddo, tir neu fuddsoddiadau) heb dalu’r hyn sy’n ddyledus ichi ganddynt.

Ni fyddwch yn cael eich arian nes bydd y diffynnydd yn gwerthu ei asedau. Mewn rhai amgylchiadau efallai y byddwch yn gallu gofyn i’r llys am orchymyn i’w gorfodi i werthu eu hasedau. Mae ffurflen ‘EX325 – Gorchymyn dyled trydydd parti a gorchymyn codi tâl – sut ydw i’n gofyn am orchymyn?’ yn egluro mwy am y weithdrefn hon.

Gall gorchymyn dyled trydydd parti neu orchymyn codi tâl fod yn gymhleth. Dylech geisio cyngor gan gyfreithiwr neu eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

Gwybodaeth am faterion ariannol y diffynnydd

Os cyfaddefodd y diffynnydd i’r hawliad ac wedi gwneud cynnig i dalu cyn i’r dyfarniad gael ei wneud, byddwch eisoes yn gwybod rhywbeth am ei faterion ariannol. Ond os mai dim ond ychydig a wyddoch am sefyllfa ariannol y diffynnydd, efallai y gallwch gael gwybod mwy drwy ofyn am ‘EX324 – Sut ydw i’n gwneud cais am orchymyn? – Gorchymyn i gael gwybodaeth gan unigolyn sydd arno arian i chi’.

Nid yw gorchymyn i gael gwybodaeth yn ddull o orfodi eich dyfarniad. Mae’n ffordd o gael gwybod am incwm, asedau a gwariant y diffynnydd. Gall yr wybodaeth hon eich helpu i benderfynu:

  • a all y diffynnydd eich talu
  • pa ddull sydd fwyaf tebygol o gael eich arian i chi

Bydd yn rhaid i chi dalu ffi am orchymyn i gael gwybodaeth. Er y bydd y llys yn ychwanegu’r ffi at yr arian sydd eisoes yn ddyledus ichi gan y diffynnydd, ni all y llys ddychwelyd yr hyn yr ydych wedi’i dalu os na fydd eich dull gorfodi yn llwyddo.

I gael rhagor o wybodaeth am orchymyn i gael gwybodaeth, darllenwch ‘EX324 – Sut ydw i’n gwneud cais am orchymyn? – Gorchymyn i gael gwybodaeth gan unigolyn sydd arno arian ichi’ mae hefyd ar gael o unrhyw Lys Sirol neu ganolfan wrandawiadau’r Llys Teulu.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am yr holl weithdrefnau hyn ar-lein neu gan staff unrhyw Lys Sirol neu ganolfan wrandawiadau’r Llys Teulu. Fodd bynnag, ni fydd staff y llys yn gallu dweud wrthych pa ddull gorfodi i’w ddewis. Eich lle chi yw penderfynu pa un sydd fwyaf tebygol o gael eich arian yn ôl. Efallai y byddwch yn gallu cael cyngor cyfreithiol am ddim gan ganolfan y gyfraith, Cyngor ar Bopeth, neu ganolfan cyngor i ddefnyddwyr.

Cofiwch, ni all y canllaw hwn ond rhoi syniad cyffredinol i chi o’r hyn sy’n debygol o ddigwydd. Ni all esbonio popeth am reolau a gweithdrefnau’r llysoedd.